Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Gwraig y Dyledwr (Cyfanswm: 6)

 
(0, 2) 163 Oni elli di drugarhau' wrthym, rhwygo'r darn papur melltigedig, yn lle bwrw tad fy mhlant i yng ngharchar, un nad achosodd ddrwg iti erioed!
(0, 2) 164 Oni feddi di nag anrhydedd na chydwybod, ai difater gennyt felltith yr amddifaid, ac onid cof gennyt am dy lyfr dyledion di dy hun, y bydd raid iti ei ddwyn gerbron y Barnwr pan ddêl hi at y pedwar peth diweddaf?
 
(0, 2) 168 Arian, ceiniog yw arian a rydd dyn yn fenthyg i'w gymydog er mwyn trugaredd Dduw.
 
(0, 2) 182 Nid gwael wyt ti am ganmol diawl—mae'r peth fel pregeth ar dy dafod, a thalu parch yr wyt i god y Mamon, fel pe bai barch i'r cysegr ei hun.
 
(0, 2) 189 A elli di edrych ar hyn oll cyn oered â'r garreg?
(0, 2) 190 Pa le y caf wely i'm plant heno?